thumbnail of pypedau Vagabondi puppets thumbnail of pypedau Vagabondi puppets thumbnail of pypedau Vagabondi puppets

"Roedd hynny'n wirioneddol grêt. Diolch yn fawr."

Dylan8Ffair Bren Powis

"Mae'r plant i'w gweld wedi mwynhau diwrnod da a mwynhau pob agwedd"

JamieAdran Chwaraeon a Hamdden Cyngor Sir Abertawe

"Roeddwn i'n meddwl bod y sioe bypedau'n fendigedig, yn andros o fendigedig, Diolch !!!"

RosalieMachynlleth

Ydych chi'n chwilio am ychydig o hud a dirgelwch?

Ysgeintiad hael o chwedlau wedi'i hadrodd yn dda?
Sawl lwyaid o bybedwaith amrywiol a medrus, yn ogystal â llawer o hwyl a phrofiadau dysgu heriol?
Peidiwch ag edrych ymhellach
Pypedau Vagabondi Puppets.

Pwy ydyn ni?

Theatr bypedau broffesiynol ydyn ni sy'n darparu adloniant, addysg ac ysbrydoliaeth ledled y bydysawd (ond yn bennaf yng Nghymru ac yn Lloegr.)
'Rydym yn gweithio ac yn chwarae gydag ystod eang o bobl, hen ac ifanc, mewn amgylchiadau gwahanol. Mae'r rhain yn cynnwys:
Gŵyl Adrodd Chwedlau At The Edge, Canolfan Celfyddydau Canolbarth Lloegr, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Fringe Festival Caeredin,
La Casa de los Cuentos, Barcelona
a Llyfrgelloedd Rhondda-Cynon-Taf.

Rydym yn creu llefydd lle mae'r dychymyg yn cael ei danio, lle mae mynegiant yn llifo a lle mae gwaith pypedau, barddoniaeth a chwarae yn dod yn rym positif yn y gymuned.

Prif gynhwysyn y cawl creadigol yw
Jo Munton.Ond mae'n bosib gweld arlunwyr, actorion, athrawon, pypedwyr, dawnswyr, a cherddorion eraill neu grwydriaid cyffredin yn byrlymu at wyneb y cawl hefyd.

Rydym wrth ein boddau fel sylfaenwyr annatod o Pyped sef rhwydwaith sy'n cefnogi pypedwyr Cymru. Mae'r grŵp eisoes wedi chwarae rôl hanfodol dros ei aelodau ac mae llawer o gydweithio toreithiog wedi deillio o hynny.

A dweud y gwir, dwi ddim yn deall sut maen nhw'n cael gwneud hyn!

Y mae Celf Theatr Vagabondi yn gwmni cyfyngedig trwy warant - Rhif: 7513362... mwy o wybodaeth