Carreg Ateb

Dyma ni, fan hyn,
Sefwn ar dif hynafol.
Chwyth y gwnt fel y myn
ond clywn sibrydion yn ei olion

Ymunwch â ni ar y daith afaelgar hon drwy dirlun hud mytholeg Cymru. Plethwyd tair chwedl o fynyddoedd Cambria ynghyd i greu'r sioe hard hon.

I gyfeiliant barddoniaeth ysgogol, gan gael ei pherfformio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, gydag amrywiaeth o dechnegau pyped, bwriad y sioe yw ysbrydoli a swyno pob oed.

Cydweithion â'r grŵp gwerin Cymreig, Canol a'r telynor Chris Knowles i greu'r trac sain ysgogol. Posibilrwydd deniadol fyddai cael cerddorion byw ar gyfer y sioe!