thumbnail of pypedau Vagabondi puppets thumbnail of pypedau Vagabondi puppets thumbnail of pypedau Vagabondi puppets

"Roedd hynny'n wirioneddol grêt. Diolch yn fawr."

Dylan8Ffair Bren Powis

"Mae'r plant i'w gweld wedi mwynhau diwrnod da a mwynhau pob agwedd"

JamieAdran Chwaraeon a Hamdden Cyngor Sir Abertawe

"Ardderchog! Sgriptiau hyfryd. Wrth fy modd gyda hwn"

Su VaughanCanolfan Greenwood, Y Felinheli

Gweithdai

Rhowch sbeis yn eich stori ac estynnwch eich dychymyg!

Mae ein gweithdai a'n sesiynau hyfforddi wedi dod a phosibiliadau di ben draw byd pypedau i ddwylo a chalonnau cannoedd o bobl.

Medrwn helpu llawer o grwpiau gwahanol (ysgolion, clybiau ieuenctid, cwmnïau theatr, colegau, busnesau, grwpiau yn y gymuned) i weithio gyda'i gilydd drwy chwarae a darganfod, i gynhyrchu dramâu pyped a digwyddiadau dathlu. Rydym wedi helpu llawer o bobl i anadlu bywyd i'w creadigaethau a'u straeon, gan ddod o hyd i leisiau oddi fewn a darganfod cymeriadau cudd.

Dydyn ni ddim o'r farn o reidrwydd bod "gormod o gogyddion yn difetha'r cawl." Rydym yn credu yn hytrach bod prif gogydd medrus, ymatebol yn gallu dod â blasau mynegiant personol ynghyd mewn ffordd fuddiol. Rydym wedi arwain grwpiau hyd at 150 yn y fath modd.

Rydym wedi datblygu repertoire enfawr o adeiladu tîm, gemau a gweithgareddau i godi hyder dros y blynyddoedd sy'n creu sail gadarn archwilio a mynegiant. Rydym yn llwyr ymwybodol o rym anghredadwy pypedau wrth helpu cyfathrebu, trawsnewid ac iachau.

Crëir ein gweithdai gan ystyried anghenion y grŵp unigol. Medrwn ymwneud â materion neu integreiddio themâu a/neu straeon penodol. Rydym wedi helpu pobl i greu darnau sy'n seiliedig ar fythau neu chwedlau, gan gynnwys stori'r Geni at y Mabinogi, materion yn ymwneud â bwlio a dinasyddiaeth ar gyfer y gymuned. Mae creu sioe yn gallu bod yn ffordd werthfawr iawn i wneud gwerthusiad ar a ffordd ardderchog i deimlo'n hyderus mewn iaith newydd.

Felly os ydych chi'n credu fod hi'n debygol iawn y gallwn gynnal gweithdy ar stori neu thema arbennig - mwy na thebyg y medrwn wneud! Mae hefyd wrth gwrs gweithdai sy'n gysylltiedig â'n sioeau.

Rydym hefyd yn cydweithio ag artistiaid, cerddorion a dawnswyr eraill i greu profiadau gweithdy unigol.

Rydym yn credu o ddifrif yng ngwerth cynhenid y gweithdy fel ffurf gelfyddydol a chredwn ei bod yn hanfodol i ymwneud ag eraill sydd hefyd yn ceisio archwilio a bywiocau'r drafodaeth ar ffurf gweithdai a chelf yn y gymuned. Rydym yn aelodau o Gymdeithas Artistiaid Cymunedol Cymru a'r Moveable Feast.

Rydym yn darparu offer a deunyddiau a dau hwylusydd fel arfer ar gyfer pob gweithdy.

Y mae Celf Theatr Vagabondi yn gwmni cyfyngedig trwy warant - Rhif: 7513362... mwy o wybodaeth